P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol

 

Geiriad y ddeiseb

 

Mae’r Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i weithredu’r safon ar gyfer cwympo a thorri esgyrn yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn yn llawn, gan sicrhau bod cleifion sydd wedi torri esgyrn oherwydd breuder, neu sydd mewn perygl o wneud hynny, yn cael eu hadnabod, eu hasesu a’u trin gan wasanaethau cyswllt torri esgyrn ym mhob un o’r Byrddau Iechyd Lleol newydd. Hoffwn weld gwasanaeth cyswllt torri esgyrn yn cael ei gysylltu â phob ysbyty sy’n trin cleifion sydd wedi torri esgyrn oherwydd breuder a gofynnwn i Lywodraeth Cymru fynnu bod gwasanaethau cyswllt torri esgyrn yn cael eu darparu’n gyffredinol ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

 

 

Linc i’r ddeiseb: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=894

 

Cynigwyd gan: Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol

 

Nifer y llofnodion:22

 

Ystyriwyd gan y Pwyllgor ar: 7 Gorffennaf, 6 Hydref a 24 Tachwedd 2009; a 29 Mehefin 2010, 12 Gorffenaf 2011.

 

Y wybodaeth ddiweddaraf:Cafwyd gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.